Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 16 Medi 2019

Amser: 13.30 - 15.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5623


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Gareth Bennett AC

Vikki Howells AC

Rhianon Passmore AC

Jenny Rathbone AC

Swyddfa Archwilio Cymru:

Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Matthew Mortlock

Nick Selwyn

Staff y Pwyllgor:

Adrian Crompton

Matthew Mortlock

Nick Selwyn

Fay Bowen (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

Joanne McCarthy (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriad gan Adam Price AC.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Nodwyd y papurau yn amodol ar y camau canlynol:

·         Cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r diweddariad nesaf a drefnwyd ar Wasanaethau Radioleg tan ddiwedd 2019;

·         Cytunodd y Pwyllgor i ohirio'r diweddariad terfynol ar Ddiogelwch Cymunedol yng Nghymru tan dymor y gwanwyn 2020, ar ôl i'r rhaglen ddod i ben ym mis Mawrth 2020;

·         Gofynnodd y Pwyllgor eu bod yn gofyn am eglurhad ar rôl y Cyfarwyddwr Trosiant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a

·         Bydd y Pwyllgor yn ymateb i'r llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

</AI2>

<AI3>

2.1   Cyfoeth Naturiol Cymru: llythyr gan Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (11 Gorffennaf 2019)

</AI3>

<AI4>

2.2   Gwasanaethau radioleg – adroddiad cryno cenedlaethol: y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru (Gorffennaf 2019)

</AI4>

<AI5>

2.3   Gwaith craffu ar Gyfrifon 2017-18: llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (16 Gorffennaf 2019)

</AI5>

<AI6>

2.4   Adroddiadau'r Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol: 2017-18 a 2018-19

</AI6>

<AI7>

2.5   Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Diweddariad gan Lywodraeth Cymru (Mehefin 2019)

</AI7>

<AI8>

2.6   Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyrau gan Lywodraeth Cymru (5 a 20 Awst 2019), Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (16 Awst 2019) a gwybodaeth ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (29 Awst 2019)

</AI8>

<AI9>

2.7   Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Llythyr gan y Prif Weinidog (5 Awst 2019)

</AI9>

<AI10>

2.8   Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Llythyr gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (9 Awst 2019)

</AI10>

<AI11>

3       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI11>

<AI12>

4       Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Gohebiaeth y Pwyllgor

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach ar nifer o faterion. Ar ôl ei dderbyn, bydd y Pwyllgor yn paratoi ei adroddiad drafft.

</AI12>

<AI13>

5       Effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru: adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

5.1 Fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru briffio'r Aelodau ar yr adroddiad hwn.

5.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal ymchwiliad i effeithiolrwydd awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru yn y flwyddyn newydd. Nododd y Pwyllgor yr adroddiadau sydd ar ddod ar sut mae awdurdodau lleol yn gweithredu eu cyfrifoldebau newydd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (adroddiad wedi'i gyhoeddi fis Medi 2019); a’r dyletswyddau newydd a osodwyd arnynt a’u partneriaid gan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi fis Tachwedd 2019), a bydd yn rhoi ystyriaeth i’r adroddiadau fel rhan o ymchwiliad penodol yn y flwyddyn newydd.

</AI13>

<AI14>

6       Cronfa Gofal Integredig: adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

6.1 Fe wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru briffio'r Aelodau ar yr adroddiad hwn.

6.2 Cytunodd yr aelodau i barhau i gadw golwg ar y mater hwn a dychwelyd ato yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>